Mae gan Iŵl Cesar gynllun newydd i chwalu pentre trafferthus Asterix mae e am rwygo calon y gymuned allan, a throi’r pentre bach yn lecyn ar gyfer tai haf. Ond mae Asterix a’i gyd-bentrefwyr yn barod i fynd i’r gad a sefyll yn y bwlch… nes i’r…
Mae angen i’r Frenhines Cleopatra brofi wrth Iŵl Cesar fod hen ysblander yr Aifft yn fyw ac yn iach. Felly mae’n gorchymyn i’w phensaer, Todanjeris, i adeiladu palas gwych i Gesar mewn cwta dri mis! Bydd dod â’r maen i’r wal yn amhosib i Todanjeris…
Mae Asterix yn teithio yn ei antur gynta i wlad Geltaidd y tu hwnt i wlad Gâl, ar drip i fro Celyddon, lle mae’r tywysog MacYmynydd ar fin etifeddu coron Mechteryn Gwŷr y Gogledd y Pictiaid. Ond mae ei elyn pennaf, MacYgwrdrwg, syniadau gwahanol ac…
Mae’r derwydd Gwyddoniadix mewn picil pan mae ei gryman aur yn torri. Yr unig rai sydd o unrhyw safon yw’r rhai mae Torchillewix yn eu cynhyrchu yn ei weithdy yn Lwtetia. Dyma Asterix ac Obelix felly yn teithio yno i brynu cryman gan Torchillewix —…
Pennaeth diegwyddor, sy’n fwy na pharod i gydweithio gyda’r Rhufeiniaid, yw Dwishobodynsaix. Mae e’n herio Pwyllpendefix i Sesiwn y Cur Pen — gornest lle bydd yr enillydd yn cael rheoli llwyth y llall. Yn anffodus, mae’r derwydd Gwyddoniadix wedi…
Gan fod pentre’r Galiaid yn ddraenen barhaus yn ystlys Iŵl Cesar, mae e’n troi at hen snichyn bach dan din o’r enw Bactreius Drwgynycaus i’w helpu. Mae Drwgynycaus yn gamstar ar gorddi’r dyfroedd, a bwriad Ceasr yw ei ddefnyddio i ddifetha bywyd…
Mae Obelix wedi colli pob chwant am fwyd, a’i ben ymhell i ffwrdd yn y cymylau… Pam? Gan ei fod e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad, dyna pam! Ond mae testun ei serch, yr hyfryd Ffalabala, yn llawn poen a chur gan fod ei dyweddi, Rafingolygix,…
Mae’r Rhufeiniaid bron â thorri’u boliau eisiau gwybod beth yw cyfrinach nerth rhyfeddol Asterix a’i gyd-Galiaid sy’n byw yn y pentre gerllaw. Caiff y llengfilwr di–nod, Caligula Minus, ei anfon i ysbïo ar drigolion y pentre a dod o hyd i’r…
Mae rhaglaw gwlad Gâl am roi anrheg gwahanol i’r bos Iŵl Cesar, ac yn penderfynu cynnig bardd y Galiaid, Perganiedix, iddo. Mae’r Rhufeiniaid yn cipio Perganiedix ac yn ei gludo mewn cadwyni i Rufain ond mae Asterix ac Obelix yn benderfynol o’i achub…
Mae pawb o bentre Asterix yn troi am wlad Groeg i chwilio am glod a bri yn y Gemau Olympaidd. Gyda’r ddiod hud i roi hwb i’w nerth, mae’r Galiaid yn sicr o ennill llu o balmwydd aur. Ond pan ddaw sôn am y ddiod hud i glust swyddogion y Gemau, mae’r…
15 janvier 2004. 12h25. Manche Ouest. Le chalutier Bugaled Breizh coule, en 37 secondes… BD événement revenant sur le drame du chalutier breton Bugaled Breizh, disparu en mer en janvier 2004 avec ses 5 marins. Un album haletant basé sur les faits…