Parcourir les contenus (16 total)

  • Collection: Kembraeg / Cymraeg / Gallois

clawr cranc cymraeg med.jpg
Mae Tintin a Milyn yn dilyn cyfres o gliwiau rhyfedd sy’n eu harwain ar drywydd gang cyffuriau peryglus. Wrth eu dilyn, caiff Tintin roi dan glo ar fwrdd llong y Capten Hadog, y Karaboudjan, lle mae’r capten yn drwm dan ddylanwad ei ddiod, a than…

tintin-ar-grib-tibet-med.jpg
Daw’r newyddion trist fod Tsiang, ffrind Tintin, wedi cael ei ladd mewn damwain awyren ym mynyddoedd yr Himalaya. Ond yn dilyn breuddwyd ryfedd, mae Tintin yn sicr fod Tsiang yn dal yn fyw. Gyda’r Capten Hadog a Milyn yn gwmni iddo, mae Tintin yn…

ottokar-cym-med.jpg
Mae Tintin ar daith i derynas fechan Syldafia, lle mae’n dod ar draws cynllwyn yn erbyn y brenin ifanc, Muskar XII. Bwriad y cynllwyn yw dwyn teyrnwialen hynafol y Brenin Ottokar, sy’n arwydd o hawl y brenin newydd i’w orsedd. O lwyddo, bydd y…

clawr yr ynys ddu 2017.jpg
Mae Tintin a Milyn yn mynd ar drywydd criw o ffugwyr arian rhyngwladol – yn eu plith, gŵr a ddaw’n un o’i elynion pennaf, sef y meddyg Müller. Trwy ddianc â’i fywyd wedi iddo gael ei saethu ar gychwyn yr antur, daw sawl dihangfa i ran Tintin wrth…

asterix-olympaidd.jpg
Mae pawb o bentre Asterix yn troi am wlad Groeg i chwilio am glod a bri yn y Gemau Olympaidd. Gyda’r ddiod hud i roi hwb i’w nerth, mae’r Galiaid yn sicr o ennill llu o balmwydd aur. Ond pan ddaw sôn am y ddiod hud i glust swyddogion y Gemau, mae’r…

asterix a-r cur pen min.jpg
Pennaeth diegwyddor, sy’n fwy na pharod i gydweithio gyda’r Rhufeiniaid, yw Dwishobodynsaix. Mae e’n herio Pwyllpendefix i Sesiwn y Cur Pen — gornest lle bydd yr enillydd yn cael rheoli llwyth y llall. Yn anffodus, mae’r derwydd Gwyddoniadix wedi…

asterix-a-cleopatra-med.jpg
Mae angen i’r Frenhines Cleopatra brofi wrth Iŵl Cesar fod hen ysblander yr Aifft yn fyw ac yn iach. Felly mae’n gorchymyn i’w phensaer, Todanjeris, i adeiladu palas gwych i Gesar mewn cwta dri mis! Bydd dod â’r maen i’r wal yn amhosib i Todanjeris…

asterix-a-r-snichyn.jpg
Gan fod pentre’r Galiaid yn ddraenen barhaus yn ystlys Iŵl Cesar, mae e’n troi at hen snichyn bach dan din o’r enw Bactreius Drwgynycaus i’w helpu. Mae Drwgynycaus yn gamstar ar gorddi’r dyfroedd, a bwriad Ceasr yw ei ddefnyddio i ddifetha bywyd…

asterix-milwr-cesar-med.jpg
Mae Obelix wedi colli pob chwant am fwyd, a’i ben ymhell i ffwrdd yn y cymylau… Pam? Gan ei fod e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad, dyna pam! Ond mae testun ei serch, yr hyfryd Ffalabala, yn llawn poen a chur gan fod ei dyweddi, Rafingolygix,…

asterix-a-r-cryman-aur-clawr-min.jpg
Mae’r derwydd Gwyddoniadix mewn picil pan mae ei gryman aur yn torri. Yr unig rai sydd o unrhyw safon yw’r rhai mae Torchillewix yn eu cynhyrchu yn ei weithdy yn Lwtetia. Dyma Asterix ac Obelix felly yn teithio yno i brynu cryman gan Torchillewix —…

9781906587598.jpg
Mae rhaglaw gwlad Gâl am roi anrheg gwahanol i’r bos Iŵl Cesar, ac yn penderfynu cynnig bardd y Galiaid, Perganiedix, iddo. Mae’r Rhufeiniaid yn cipio Perganiedix ac yn ei gludo mewn cadwyni i Rufain ond mae Asterix ac Obelix yn benderfynol o’i achub…

rhandir-y-duwiau.jpg
Mae gan Iŵl Cesar gynllun newydd i chwalu pentre trafferthus Asterix mae e am rwygo calon y gymuned allan, a throi’r pentre bach yn lecyn ar gyfer tai haf. Ond mae Asterix a’i gyd-bentrefwyr yn barod i fynd i’r gad a sefyll yn y bwlch… nes i’r…

asterix-y-galiad-med-we.jpg
Mae’r Rhufeiniaid bron â thorri’u boliau eisiau gwybod beth yw cyfrinach nerth rhyfeddol Asterix a’i gyd-Galiaid sy’n byw yn y pentre gerllaw. Caiff y llengfilwr di–nod, Caligula Minus, ei anfon i ysbïo ar drigolion y pentre a dod o hyd i’r…

asterix-a-gwyr-y-gogledd.jpg
Mae Asterix yn teithio yn ei antur gynta i wlad Geltaidd y tu hwnt i wlad Gâl, ar drip i fro Celyddon, lle mae’r tywysog MacYmynydd ar fin etifeddu coron Mechteryn Gwŷr y Gogledd y Pictiaid. Ond mae ei elyn pennaf, MacYgwrdrwg, syniadau gwahanol ac…

direidi-nicolas-cawr.jpg
Dyma Nicolas… direidus, bob dydd… drygionus, weithiau… yn ei chanol hi, wastad! Ble bynnag mae e, mae’r bachgen bywiog Nicolas yn mynd o un antur hwyliog i’r llall, ac yn sicr o roi pen tost i’w rieni ac athrawon mewn cyfres o straeon byrion llawn…
Formats de sortie

atom, dcmes-xml, json, omeka-xml, rss2